P-04-326 Na i losgyddion
Geiriad y ddeiseb
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i bwyso ar Lywodraeth Cymru i ddiwygio ei pholisi cynllunio a’i pholisi ynghylch gwastraff gweddilliol er mwyn cael rhagdybiaeth yn erbyn adeiladu llosgyddion, gan eu bod yn gyrru’r rhan fwyaf o garbon o wastraff i mewn i’r awyr ar ffurf carbon deuocsid, yn rhyddhau gronynnau mân iawn a allant fod yn beryglus i iechyd y cyhoedd, ac yn creu lludw gwenwynig. Credwn fod llosgyddion yn wael i’r amgylchedd ac yn wael i bobl.
Linc i’r ddeiseb: http://www.senedd.cynulliadcymru.org/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=1019
Cynigwyd gan: Cyfeillion y Ddaear Cymru
Nifer y llofnodion: 1299 (Casglodd deiseb gysylltiedig 13,286 o lofnodion)
Ystyriwyd gan y Pwyllgor ar: 21 Mehefin 2011.
Y wybodaeth ddiweddaraf: Cafwyd gohebiaeth gan Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy.